Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
Dyddiad: Dydd Llun 21 Hydref 2019
Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
1. Mae’r papur hwn yn amlinellu cefndir sefydlu’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, ac yn gwahodd yr Aelodau i nodi cylch gwaith y Pwyllgor.
2. Yn ei adroddiad yn 2017, gwnaeth y Panel ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad argymhellion ynghylch nifer yr Aelodau sydd eu hangen ar y Cynulliad, faint o Aelodau y dylid eu hethol a’r oedran isaf ar gyfer pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad.
3. Yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Gorffennaf 2019, cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod angen cynyddu nifer Aelodau’r Cynulliad ac y dylid gwneud rhagor o waith trawsbleidiol i ddwyn y gwaith hwn yn ei flaen.
4. Ar 18 Medi 2019, pleidleisiodd y Cynulliad o blaid creu pwyllgor trawsbleidiol newydd i drafod y materion hyn.
5. Cylch gwaith y pwyllgor yw trafod argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
6. Caiff y pwyllgor ei ddiddymu unwaith y bydd y Cynulliad wedi trafod ei adroddiad terfynol.